O! dirion Iesu,
annwyl wyt i mi,
Gwrando mae dy galon
ar fy egwan gri,
Nertha 'nhraed i gerdded
yn dy gamau Di,
Gwna fi'n blentyn ufudd,
ufudd fel Tydi.
O! sanctaidd Iesu,
gwna fi'n wyn a glân,
Canna enaid aflan
fel yr eira mân;
Ym mhob temtasiynau,
Iesu cymorth fi,
Gwna fi'n bur a sanctaidd,
sanctaidd ydwyt Ti.
O! fyddlon Iesu,
dangos rin dy loes,
Boed fy mywyd innau
'n aberth ac yn groes;
Yna pam yr ofnaf
pryd y'm gelwir i;
Dwg fy enaid adref
i'th fwyn fynwes Di.
J Lloyd Williams 1855-1928
Tôn [10.10.10.10]: Dymuniad Plentyn |
O tender Jesus!
dear thou art to me,
Listening is thy heart
to my weak cry,
Strengthen my feet to walk
in Thy steps,
Make me an obedient child,
obedient like Thyself.
O holy Jesus!
make me white and clean,
Bleach an unclean soul
like the fine snow;
In all temptations,
Jesus help me,
Make me pure and holy,
holy art Thou.
O faithful Jesus!
show the merit of thy agony,
Let my own life be
a sacrifice and a cross;
Then why shall I fear
when I am seen;
Bring my soul home
to Thy dear breast.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|